Skip Navigation

Y Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer gwaith a bywyd bob dydd.

Gweinidog yn lansio hyfforddiant ar eiddo yng Nghymru


 

Mae prosiect i hyfforddi 150 o werthwyr tai ac asiantau gosod wedi cael ei lansio'n swyddogol gan John Griffiths AC, y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau yn Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Asset Skills wedi sicrhau nawdd gan raglen Cynyddu Sgiliau Llywodraeth Cynulliad Cymru i helpu i dalu am hanner costau cyrsiau ac arholiadau gweithwyr proffesiynol ym maes eiddo.PropertyProfessionalsLaunch

Mae'r cymwysterau sy'n gysylltiedig â'r diwydiant y gallant eu cael yn cynnwys Dyfarniad Technegol Gwerthu Eiddo Preswyl, Gosod Eiddo Preswyl a Rheoli Eiddo, sy'n cael ei redeg gan gorff dyfarnu Ffederasiwn Cenedlaethol Gweithwyr Proffesiynol ym maes Eiddo (NFOPP).

Gellir astudio dyfarniadau mewn Arwerthu ac Eiddo Masnachol hefyd drwy ddefnyddio Cyllid Cynyddu Sgiliau Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae'r Dyfarniadau Technegol yn rhan o'r fframwaith Prentisiaeth a dyma'r cymwysterau y mae'r diwydiant yn eu ffafrio.

Bydd y prosiect yn darparu cefnogaeth i hyfforddeion er mwyn sicrhau bod llawer o bobl yn manteisio ar yr hyfforddiant a bod y gyfradd llwyddiant mor uchel â phosibl. Gobeithir y bydd y cynllun hwn yn dyblu nifer y staff cymwys yng Nghymru.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Gail Fleming ar 01887 829171.

Pictured L-R: Richard Beamish, Chief Executive, Asset Skills; John Griffiths, AM, Deputy Minister for Skills, Welsh Assembly Government and Melfyn Williams from the National Federation of Property Professionals.

Cliciwch yma i weld fersiwn Saesneg o'r dudalen hon