Y Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer gwaith a bywyd bob dydd.
Asset Skills
Tel: 01685 387 914
info@assetskills.org
Mae ymchwil yn rhan allweddol o'n gwaith. Mae Asset Skills yn cynhyrchu adroddiadau Cyflwr y Wlad a Chyflwr y Sector, ffeithlenni allweddol a chasgliadau o ganfyddiadau gwaith ymchwil Barometer yn rheolaidd.
Gallwch weld yr adroddiadau hyn i gyd yma.
Ym mis Hydref, 2007, sefydlwyd fforwm i sefydliadau sy'n darparu addysg uwch (SAU) gyda'r amcan o hysbysu SAU am anghenion cyflogwyr a chreu deialog rhwng y darparwyr AU a chyflogwyr y sector.
Mae hyn yn dilyn ein prosiect ymchwil a ddangosodd nad oedd y ddarpariaeth israddedig yn ddigonol i ateb gofynion cyflogwyr. Dangosodd hefyd fod eisiau ymrwymiad mwy effeithiol rhwng addysg uwch a busnesau a bod angen mireinio'r ddarpariaeth addysg bellach ac addysg uwch. Mae saith o brifysgolion eisoes yn rhan o'r fforwm. Cynhelir cyfarfodydd gyda chyflogwyr i wella'r berthynas ymhellach rhwng AU a chyflogwyr.
Mae gan Gymru Fforwm Amgylchedd Adeiledig i hyrwyddo Strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer yr Amgylchedd Adeiledig, sef Building Companies: Building Skills. Sefydlwyd y fforwm ar ddechrau 2008, gyda dau aelod o Fwrdd Asset Skills Cymru, yn cynnwys Phil Toms, ein cadeirydd, yn aelodau ohono. Bydd y Fforwm yn edrych ar:
Mae Asset Skills yn cyd-weithio gyda Chynghorau Sgiliau Sector eraill yn yr Amgylchedd Adeiledig (Construction Skills, Summit Skills a EU Skills) yn ogystal â'r Cyfarwyddwr Strategol i'r Amgylchedd Adeiledig sydd newydd ei benodi, a'n cyflogwyr ar y fforwm i hyrwyddo'r strategaeth.
Rydym newydd gwblhau prosiect yn hybu'r Adduned Cyflogwr Sgiliau Sylfaenol i gymdeithasau tai drwy Gymru. Mae hon yn hybu Adduned y Cyflogwr, sy'n rhan o strategaeth Sgiliau Sylfaenol Llywodraeth Cynulliad Cymru, i brif weithredwyr, rheolwyr Adnoddau Dynol a rheolwyr contract er mwyn gwneud pobl yn fwy ymwybodol o faterion sgiliau sylfaenol ac i helpu cymdeithasau tai i gael gafael ar arian i ddatblygu cynlluniau gweithredu yn rhan o'r Adduned.
Cliciwch yma i weld yr astudiaethau achos.
Mae Asset Skills wedi bod yn rhedeg prosiect ar ôl sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i dalu hanner costau'r Gwobrau Technegol NFOPP mewn: