The Sector Skills Council for the places where we live and work
Asset Skills
Tel: 01685 387 914
info@assetskills.org
01685 387 914
Mae Asset Skills yn cydnabod gofynion unigryw Cymru ac rydym yn gweithio'n rhagweithiol i ddatblygu cynhyrchion, gwasanaethau, safonau a chymwysterau sy'n ateb gofynion cyflogwyr Cymru.
Ers y datganoli, mae'r agenda yng Nghymru wedi symud i gyfeiriad gwahanol i agenda Lloegr a gweddill y DU mewn nifer o wahanol ffyrdd ac mae'n hanfodol bod cyflogwyr a gweithwyr yn y sector Asset Skills yng Nghymru'n ymwybodol o'r gwahaniaethau y gall hyn eu hachosi.
Er mwyn helpu i ateb gofynion cyflogwyr Cymru, mae Asset Skills Cymru'n canolbwyntio ar:
Mae Asset Skills yn gweithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhan o'i Phrosiect Cynllun Peilot Blaenoriaethau Sector a gyllidir o gronfeydd Ewropeaidd i ddarparu prentisiaethau a chymwysterau newydd drwy Gymru.
Bydd y prosiect yn darparu lle i gyfanswm o 230 o ddysgwyr ar raglenni sy'n cynnwys Prentisiaethau Modern a Sylfaen newydd Asset Skills, NVQ a chymwysterau eraill.
Gwahoddir cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant i gymryd rhan yn y prosiect. Cliciwch yma i ganfod rhagor am y prosiect.
Ni dderbynnir ceisiadau newydd ar gyfer y prosiect yma bellach. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch รข jholdaway@assetskills.org