Skip Navigation

The Sector Skills Council for the places where we live and work 

Phone 01685 387 914

Asset Skills Cymru


Mae Asset Skills yn cydnabod gofynion unigryw Cymru ac rydym yn gweithio'n rhagweithiol i ddatblygu cynhyrchion, gwasanaethau, safonau a chymwysterau sy'n ateb gofynion cyflogwyr Cymru.

Ers y datganoli, mae'r agenda yng Nghymru wedi symud i gyfeiriad gwahanol i agenda Lloegr a gweddill y DU mewn nifer o wahanol ffyrdd ac mae'n hanfodol bod cyflogwyr a gweithwyr yn y sector Asset Skills yng Nghymru'n ymwybodol o'r gwahaniaethau y gall hyn eu hachosi.

Er mwyn helpu i ateb gofynion cyflogwyr Cymru, mae Asset Skills Cymru'n canolbwyntio ar:

  • Ymgysylltiad y cyflogwyr
  • Gwybodaeth am y Farchnad Lafur sy'n benodol berthnasol i'w sectorau
  • Safonau a chymwysterau

Hyfforddiant Newydd ar gyfer Amgylchedd Adeiledig Cymru

Cymru yn llwyddo i gael arian ar gyfer ei hamgylchedd adeiledig
Ar 29 Medi, cynhelir lansiad lle bydd Lesley Griffiths, y Dirprwy Weinidog dros Wyddoniaeth, Arloesi a Sgiliau, yn cyhoeddi cyllid ar gyfer prentisiaethau a chymwysterau newydd yn amgylc
 

Prosiect Cynllun Peilot y Gronfa Blaenoriaethau Sector.

Mae Asset Skills yn gweithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhan o'i Phrosiect Cynllun Peilot Blaenoriaethau Sector a gyllidir o gronfeydd Ewropeaidd i ddarparu prentisiaethau a chymwysterau newydd drwy Gymru.

Bydd y prosiect yn darparu lle i gyfanswm o 230 o ddysgwyr ar raglenni sy'n cynnwys Prentisiaethau Modern a Sylfaen newydd Asset Skills, NVQ a chymwysterau eraill.

Gwahoddir cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant i gymryd rhan yn y prosiect. Cliciwch yma i ganfod rhagor am y prosiect.

Cymwysterau i Bobl Broffesiynol ym maes Eiddo

Ni dderbynnir ceisiadau newydd ar gyfer y prosiect yma bellach. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch รข jholdaway@assetskills.org