The Sector Skills Council for the places where we live and work
Mae prosiect ar gyfer hyfforddi gwerthwyr ac asiantau gosod tai wedi cael caniatâd i fwrw ymlaen yng Nghymru.
Mae Asset Skills wedi sicrhau nawdd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i helpu i dalu am hanner costau'r cwrs ar gyfer 150 o staff cwmnïau gwerthu tai.
Mae'r cymwysterau sy'n gysylltiedig â'r diwydiant y gallant eu cael yn cynnwys Dyfarniad Technegol Gwerthu Eiddo Preswyl, Gosod Eiddo Preswyl a Rheoli Eiddo, sy'n cael ei redeg gan gorff dyfarnu Ffederasiwn Cenedlaethol Gweithwyr Proffesiynol ym maes Eiddo (NFOPP).
Gellir astudio dyfarniadau mewn Arwerthu ac Eiddo Masnachol hefyd drwy ddefnyddio Cyllid Cynyddu Sgiliau Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae'r Dyfarniadau Technegol yn rhan o'r fframwaith Prentisiaeth a dyma'r cymwysterau y mae'r diwydiant yn eu ffafrio.
Mae gwaith ymchwil gan Asset Skills wedi tynnu sylw at yr angen i wella sgiliau'r bobl hynny sy'n gweithio mewn cwmnïau gwerthu a gosod tai. Amcangyfrifir bod llai na 15% o staff yng Nghymru a gweddill y DU heb unrhyw fath o gymhwyster galwedigaethol.
Gall unrhyw un a chanddo ddiddordeb gofrestru ar gyfer y cyllid o fis Ionawr 2009 ymlaen.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Gail Fleming ar 01887 829 171 neu ar gfleming@assetskills.org